Math | cynhyrchydd cerbydau |
---|---|
Math o fusnes | cwmni cyhoeddus |
ISIN | US88160R1014 |
Diwydiant | diwydiant ceir, diwydiant solar, diwydiant batri |
Sefydlwyd | 1 Gorffennaf 2003 |
Sefydlydd | Martin Eberhard, Marc Tarpenning |
Cadeirydd | Elon Musk |
Pencadlys | Austin, Texas |
Pobl allweddol | Elon Musk (Prif Weithredwr) |
Cynnyrch | Tesla Roadster |
Refeniw | 96,773,000,000 $ (UDA) (2023) |
Incwm gweithredol | 8,891,000,000 $ (UDA) (2023) |
Cyfanswm yr asedau | 62,131,000,000 $ (UDA) (31 Rhagfyr 2021) |
Perchnogion | Elon Musk (0.208), Baillie Gifford (0.076), Capital Group Companies (0.059), Larry Ellison (0.017), Elon Musk (0.265), Fidelity Investments (0.102), Baillie Gifford (0.082), T. Rowe Price (0.06009), Elon Musk (0.134), Fidelity Investments (0.136), T. Rowe Price (0.074) |
Nifer a gyflogir | 140,473 (31 Rhagfyr 2023) |
Rhiant-gwmni | S&P 500, NASDAQ-100 |
Is gwmni/au | SolarCity |
Lle ffurfio | Palo Alto |
Gwefan | https://www.tesla.com/, https://www.tesla.com/de_de, https://www.tesla.com/fr_fr, https://www.tesla.com/nl_nl, https://www.tesla.com/fi_fi |
Cwmni ceir cyhoeddus yng Nghaliffornia sy'n cynhyrchu cerbydau trydan a dyfeisiadau storio ynni (ee Powerwall) yw Tesla (enw gwreiddiol: Tesla Motors, Inc.). Mae'r cwmni'n masnachu ar farchnad stoc NASDAQ dan y symbol TSLA. Sefydlwyd y cwmni yn 2003 yn San Carlos, Califfornia gan Elon Musk, Martin Eberhard, Marc Tarpenning, JB Straubel ac Ian Wright a phrynwyd hen ffatri Toyota a General Motors yn San Francisco yn 2010. Erbyn haf 2012 roedd y Model S ar werth. Dechreuodd y cwmni wneud elw yn 2013.[1]
Y sbortscar Tesla Roadster oedd y car cyntaf (2010); hwn oedd y car cyflym trydan-llawn cyntaf yn y byd, yn cael ei bweru gan y batri lithiwm-ion.[2] Yna daeth Model S, a oedd hefyd yn drydan-llawn, gyda Model X yn ei ddilyn wrth ei sodlau.[3] Gwerthwyd dros 100,000 o unedau yn fyd-eang o'r Model S erbyn Rhagfyr 2015, tair mlynedd a hanner wedi iddo gael ei lansio.[4] Yr adeg hon, dyma'r ail gar plug-in a werthwyd mwyaf ohono ledled y byd, yn dilyn y Nissan Leaf.[4] Mae Tesla hefyd yn gwerthu cyfarpar gwefru batris ar gyfer y cartref a'r swyddfa, ac wedi gosod rhwydwaith o orsafoedd gwefru ar draws Gogledd America, Ewrop ac Asia.[5] Mae nhw'n cynnig gorsafoedd gwefru am ddim i siopau, tai bwyta ayb ar gyfer cerbydau eu cwsmeriaid.[6] Yn 2015 lansiwyd y Model X, gyda'i ddrysau nodweddiadol falcon wing.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search