4 results found for: “starlink”.

Request time (Page generated in 0.2284 seconds.)

Starlink

Mae Starlink yn rhwydwaith o loerenni a grewyd ac a weithredir gan y cwmni awyrofod Americanaidd SpaceX, sy'n darparu gwasanaeth i dros 70 o wledydd. Caiff...

Last Update: 2023-12-23T08:26:56Z Word Count : 4014

View Rich Text Page View Plain Text Page

SpaceX

roced, llong ofod Cargo Dragon a Crew Dragon, a lloerennau cyfathrebu Starlink. Ym Mai 2012, yn dilyn lansiad llwyddiannus y Dragon cyntaf i'r orsaf (heb...

Last Update: 2023-05-01T19:06:31Z Word Count : 295

View Rich Text Page View Plain Text Page

Starship SpaceX

ddisodli rocedi Falcon 9 a Falcon Heavy, ehangu'r rhwydwaith o loerenau Starlink, a lansio criwiau i'r Lleuad ac i blaned Mawrth. Mae SpaceX, un o gwmniau...

Last Update: 2024-01-04T08:48:45Z Word Count : 2535

View Rich Text Page View Plain Text Page

Elon Musk

orbit a docio llong ofod â chriw gyda'r ISS. Prif: Starlink Yn 2015, dechreuodd SpaceX ddatblygu Starlink sef cysawd neu rwydwaith o loerennau orbit isel...

Last Update: 2023-12-23T08:29:01Z Word Count : 12025

View Rich Text Page View Plain Text Page

Main result

Starlink

Mae Starlink yn rhwydwaith o loerenni a grewyd ac a weithredir gan y cwmni awyrofod Americanaidd SpaceX, sy'n darparu gwasanaeth i dros 70 o wledydd. Caiff hefyd ei alw'n 'gysawd y rhyngrwyd'. Bydd y rhwydwaith hwn hefyd yn wasanaeth ffonau symudol ar raddfa byd-eang erbyn 2024. Dechreuodd SpaceX lansio lloerennau Starlink ym Mai 2019. Yn Nhachwedd 2023, roedd gan y cytser o loerenni'n dros 5,500 o loerenni bach (wedi'u masgynhyrchu) mewn orbit isel o'r Ddaear (LEO) ac maent yn cyfathrebu â throsglwyddyddion ar y Ddaear. Bydd y nifer terfynol o loerenni'n nes at 12,000; ac mae ail gam y cynllun yn cynyddu'r nifer hwn ymhellach - i tua 42,000 lloeren. Cyhoeddodd SpaceX ei fod wedi cyrraedd mwy nag 1 miliwn o danysgrifwyr yn Rhagfyr 2022, 1.5 miliwn o danysgrifwyr ym Mai 2023, a 2 filiwn o danysgrifwyr m Medi 2023. Mae wedi chwarae rhan allweddol yn Rhyfel Rwsia-Wcrain. Lleolir cyfleuster datblygu lloerenno SpaceX yn Redmond, Washington sy'n gartref i'r ymchwil i'r dechnoleg, sy'n datblygu'r lloerenni o ddydd i ddydd, sy'n gweithgynhyrchu'r lloerenni ac yn rheoli'r cylchdroeon (orbits). Ym Mai 2018, amcangyfrifodd SpaceX y byddai cyfanswm cost dylunio, adeiladu a defnyddio'r gytser o leiaf US$10 biliwn. Yn Ionawr 2017 amcangyfrifodd SpaceX y byddai'r refeniw blynyddol gan Starlink tua $12 biliwn erbyn 2022 ac yn fwy na $30 biliwn erbyn 2025. Dywedwyd bod refeniw gwirioneddol o Starlink yn 2022 yn $1.4 biliwn. Disgrifiwyd y perfformiad hwn fel "methiant" gan SpaceX. Mae seryddwyr wedi codi pryderon am yr effaith y gallai'r cytser ei chael ar seryddiaeth ar y Ddaear, a sut y bydd y lloerenni'n cyfrannu negyddol at amgylchedd orbital sydd eisoes yn orlawn. Mae SpaceX wedi ceisio lliniaru pryderon seryddol gyda mesurau i leihau disgleirdeb y lloerennau. Byddant yn dad-orbitio yn otomatig ar ddiwedd eu hoes. Maent hefyd wedi'u cynllunio i osgoi gwrthdrawiadau yn annibynnol ac yn llyfn yn seiliedig ar ddata tracio.


© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search