Car trydan

Car trydan
MathCerbyd trydan batri, car Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebQ124351225 Edit this on Wikidata
Rhan oelectromobility Edit this on Wikidata
Yn cynnwysBatri, Modur trydan Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Car trydan "Smart" yn cael ei wefru ar ochr y pafin yn Nice, haf 2014
Car trydan o'r Almaen, 1904

Mae'r car trydan yn gerbyd sy'n cael ei yrru gan fotor trydan gan ddefnyddio ynni trydan wedi'i storio mewn batri, cell solar neu ddyfais ynni arall. Mae ceir sy'n dibynnu ar drydan yn sydyn a pharod o ran ei drorym (torque) a cheir cyflymiad (acceleration) esmwyth iawn. Ymhlith y gwahanol fathau o geir trydan mae: ceir trydan cell danwydd, ceir celloedd solar, ceir trydan batri a cheir trydan heibrid.

Yn y 1880au yr ymddangosodd y car trydan yn gyntaf.[1] Daethant yn boblogaidd iawn ar ddiwedd y 19eg ganrif ac yna eto ar gychwyn yr 21g. Yn y 1920au gwelwyd datblygiadau technegol cerbydau gasolîn (neu betrol fel y dywedir heddiw) a hynny ar raddfa fawr oherwydd dulliau newydd o fasgynhyrchu'n rhad. Roedd hyn yn hoelen yn arch y car trydan. Un o ganlyniadau yr argyfwng ynni bydeang yn y 1970au a'r 1980au oedd cynnydd aruthrol yn niddordeb pobl yn y car trydan, ond sêr gwib oedd y datblygiadau amgen hyn ac ni chyrhaeddod y ceir y farchnad.

Ym Mehefin 2014 roedd ceir trydan batri tipyn yn ddrytach na cheir arferol oherwydd pris uchel y batri lithiwm,[2] ac y Nissan Leaf oedd y car trydan a oedd wedi gwerthu mwyaf: dros 130,000. Erbyn Medi 2015 roedd dros 30 o fodelau ceir a faniau trydan-yn-unig ar gyfer busnesau. Rhwng 2008 a Medi 2015 gwerthwyd cyfanswm o un miliwn o gerbydau trydan.[3] Y car trydan mwyaf poblogaidd yw'r Nissan Leaf, a lansiwyd yn Rhagfyr 2010 ac a werthir mewn 46 o wledydd. Hyd at Rhagfyr 2005 gwerthwyd dros 200,000; yr ail gar mwyaf poblogaidd yw'r Tesla Model S, a ryddhawyd ym Mehefin 2012, ac a werthwyd dros 100,000 o unedau ledled y byd.[4][5]

  1. Roth, Hans (Mawrth 2011). Das erste vierrädrige Elektroauto der Welt (yn German). tt. 2–3.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. National Research Council (2010). "Transitions to Alternative Transportation Technologies--Plug-in Hybrid Electric Vehicles". The National Academies Press. Cyrchwyd 2010-03-03.
  3. Jeff Cobb (16 Medi 2015). "One Million Global Plug-In Sales Milestone Reached". HybridCars.com. Cyrchwyd 26 Medi 2015.
  4. Jeff Cobb (8 Rhagfyr 2015). "Nissan Sells 200,000th Leaf Just Before Its Fifth Anniversary". HybriCars.com. Cyrchwyd 8 Rhagfyr 2015. By early December 2015 ... Chevy Volt and its variants [sold] close to 104,000 units, and the Tesla Model S [sold] nearly 100,000.
  5. Cobb, Jeff (26 Ionawr 2017). "Tesla Model S Is World's Best-Selling Plug-in Car For Second Year In A Row". HybridCars.com. Cyrchwyd 16 Ionawr 2017.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search