Star Wars

Logo Star Wars

Masnachfraint ffugwyddonol Americanaidd yw Star Wars. Mae'n cynnwys tri drioleg o ffilmiau sydd wedi datblygu'n gyfresi teledu, llyfrau, gemau cyfrifiadurol a chomics. Ynddynt darlunir galaeth dychmygol, pell iawn i ffwrdd o blaned Daear, ble mae'r Jedi yn cynrychioli'r da a'r Sith yn cynrychioli'r drwg. Yr arf, fel arfer, yw'r saber-golau (lightsaber) a cheir nifer o themâu, gydag elfennau o athroniaeth a chrefydd yn nadreddu drwy'r themâu hynny.

Lansiwyd y ffilm cyntaf ar 25 Mai 1977 gyda'r teitl Star Wars a hynny gan 20th Century Fox a daeth yn hynod o boblogaidd ledled y byd. Yn hydref 2012, prynodd The Walt Disney Company Lucasfilm am $4.05 biliwn a chyhoeddodd ei fwriad o greu trydedd cyfres gyda'r gyntaf o'r dair Star Wars Episode VII, yn gweld golau dydd yn 2015.[1]

  1. Nakashima, Ryan (20 Hydref 2012). "Disney to make new 'Star Wars' films, buy Lucas co". MSN Money. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Tachwedd 2012. Cyrchwyd 31 Hydref 2012.

© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search