Am ragor o wybodaeth am ddiwydiant ffilm yr Unol Daleithiau gweler Sinema yn yr Unol Daleithiau. Gweler hefyd Hollywood (gwahaniaethu). Ardal yn Los Angeles, Califfornia yw Hollywood, sydd wedi ei leoli i'r gogledd-orllewin o ganol y dref. Oherwydd ei enwogrwydd fel canolfan hanesyddol stiwdios a serennau ffilm, defnyddir y gair "Hollywood" yn aml i gynrychioli sinema yn yr Unol Daleithiau. Erbyn heddiw mae'r diwydiant wedi gwasgaru i ardaloedd cyfagos gan gynnwys Burbank a Los Angeles Westside ond mae nifer o ddiwydiannau eraill megis golygu, effeithiau props, ôl-gynhyrchu a goleuo yn dal wedi eu lleoli yn Hollywood.
© MMXXIII Rich X Search. We shall prevail. All rights reserved. Rich X Search